Ydych chi’n dyheu am gael trefn ar eich tŷ neu weithle?
Hoffech chi dderbyn cymorth i gychwyn a gorffen y dasg?
Byddaf yn:
Medraf gydweithio efo chi i gael trefn ar ystafelloedd unigol neu’r ty gyfan. Efallai bod y cwpwrdd dan y grisiau yn boen meddwl i chi? Neu tybed ydych chi am gael trefn ar y lolfa? Beth am deganau’r plant? Pa bynnag reswm sydd gennych dros fod eisiau cymorth, medraf gynnig gwasanaeth broffesiynol a chyfeillgar. Cysylltwch â mi i drafod eich gofynion.
Ydych chi’n gweld bod angen rhoi trefn ar eich gwaith papur, amlenni neu ffolderi? Medraf gydweithio gyda chi i dacluso unrhyw waith papur sydd o gwmpas eich cartref neu weithle, a rhoi systemau syml ar waith i’ch helpu chi gynnal trefn tu hwnt i’r sesiwn twtio.
Efallai eich bod yn dymuno troi ystafell sbar yn feithrinfa ac angen cymorth gyda’r dasg? Neu yn gobeithio gwerthu eich tŷ ac angen cymorth ei dwtio cyn ei roi ar y farchnad? Os ydych yn wynebu’r gwaith o symud cartref, medraf eich helpu gyda phob agwedd o bacio, trefnu eiddo, a dadbacio i wneud y dasg mor ddi-drafferth â phosib.
Ydych chi’n dymuno cael cychwyn ar dasg trefnu, ond yn gweld bod amser yn brin?
Neu efallai eich bod yn dymuno cael hwb fach i gychwyn ar y gwaith?
Beth felly am gael sesiwn rithiol? Ar ôl pennu ardal i’w dacluso, medraf gynnig sesiwn fidio dros y we i’ch cynghori, annog a’ch arwain drwy’r dasg o trefnu a thwtio.