Twt logo

Prisiau


Ymgynghoriad

Gallaf gynnig sesiwn ymgynghori, hyd at 30 munud, am ddim. Gall hyn gynnwys trafod eich amcanion, pryderon a gobeithion. Medraf gynnal y sesiwn hon yn eich cartref, dros alwad ffôn neu sesiwn fideo dros y we.

 

Yn y Catref

Cost y gwaith twtio ydy £30 yr awr, gyda lleiafswm o 3 awr ar gyfer un sesiwn, ac uchafswm o 6 awr mewn diwrnod. Mae modd archebu sesiwn unigol neu gyfres ohonynt. Mae’r gost yn cynnwys pob agwedd o drefnu a thacluso yr ardal rydych wedi ei grybwyll a chludo eitemau i siopau elusen (lle bo’n briodol). Bydd pob cleient yn derbyn cyngor a chefnogaeth dros ffôn neu neges destun rhwng sesiynau (os yn archebu cyfres o sesiynau).

 

Sesiwn Rhithiol

Bydd cost sesiynau rhithiol yn ddibynnol ar hyd y sesiwn. Lleiafswm y sesiwn fydd 30 munud, gydag uchafswm o 2 awr.

 

 

APDO

© Hawlfraint 2024 - Twt - Gwefan gan Delwedd

Polisi Preifatrwydd | Termau Defnyddio | Map o'r Safle